GWIRFODDOLI
Diolch am eich diddordeb mewn gwirfoddoli.
Fel sefydliad sy’n gweithio gyda chleifion agored i niwed, mae’n bwysig bod gennym broses recriwtio gadarn. Gall y broses recriwtio gymryd 2-3 mis i’w chwblhau.
Sylwer ein bod angen ymrwymiad o 6 mis o leiaf gan ein gwirfoddolwyr oherwydd nifer yr archwiliadau y mae’n ofynnol i ni eu cynnal.
Mae’r broses recriwtio yn gofyn am y canlynol:
Cwblhau:
- ffurflen gais
- holiadur iechyd galwedigaethol a fydd yn cael ei ddilyn gan apwyntiad iechyd galwedigaethol (yn Ysbyty Gwynllyw, Ysbyty Ystrad Fawr neu Ysbyty Neuadd Nevill)
- archwiliadau geirda (nid yw’r rhain yn angenrheidiol ar gyfer gwirfoddolwyr cŵn therapi gan y bydd y rhain wedi cael eu harchwilio eisoes)
Llofnodi:
- disgrifiad swydd
- cytundeb cyfrinachedd
- datganiad o ddisgwyliadau
Darparu dogfennau ar gyfer:
- archwiliad mewnfudo, hunaniaeth a llofnod
- archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (archwiliad heddlu) – os yw’n briodol
Tynnu llun ar gyfer:
- bathodyn adnabod (y bydd yn rhaid ei wisgo pan ar ddyletswydd fel gwirfoddolwr)
Ar gyfer gwirfoddolwyr cŵn therapi yn unig:
- Ymuno â naill ai Pets as Therapy neu Therapy Dogs Nationwide (ffi aelodaeth flynyddol yn daladwy)
Cwblhau eu proses asesu ar gyfer eich ci.
Os hoffech ragor o wybodaeth benodol am wirfoddoli, cliciwch yma.
BWRSARIAETHAU
Bydd Bwrsariaethau GIG ar gyfer nyrsys, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd dan hyfforddiant cymwys yn parhau i fod ar gael yng Nghymru yn 2018/19.
Bydd y fwrsariaeth yn seiliedig ar unigolion yn ymrwymo ymlaen llaw i fanteisio ar y cyfle i weithio yng Nghymru, ar ôl cymhwyso, am gyfnod o ddwy flynedd.
PROFIAD GWAITH
Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd profiad gwaith ar draws ein holl broffesiynau a chroesawn geisiadau gan ysgolion, myfyrwyr addysg bellach ac uwch a rhaglenni cyflogaeth.
Rydym yn annog y rhai sy’n chwilio am leoliad i gysylltu â’r adran berthnasol yr hoffech gael cyfle i ennill profiad ynddi. Cyfeiriwch at dudalen 2 yn y llawlyfr am restr o Ysbytai ABUHB. Ar ôl i chi sicrhau lleoliad, gellir anfon y manylion mewn e-bost at jennifer.sadler@wales.nhs.uk neu susan.hayward2@wales.nhs.uk. Byddwch yn derbyn yr holl ffurflenni perthnasol i’w cwblhau mewn ymateb i’r e-bost wedyn.
Fel arall, os hoffech i ABUHB ddod o hyd i leoliad ar eich rhan, cysylltwch â Jennifer Sadler ar 01633 623959 neu Susan Hayward yn uniongyrchol ar 01633 623790, i drafod eich gofynion.
Gadewch hyd at 6 mis i leoliad gael ei brosesu. Rydym yn derbyn ceisiadau gan bobl dros 14 oed.
Gweler ein Llawlyfr am ragor o wybodaeth.
TROSOLWG PRENTISIAETHAU
Mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o gymwysterau prentisiaeth i gyflogeion ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth a gwella eu rhagolygon gyrfaol ar bob cam o’u bywyd gwaith.
Fframwaith o ddysgu yw prentisiaethau. Ariennir y rhaglenni hyn yn llawn trwy Lywodraeth Cymru ac maen nhw werth tua £4000 fesul dysgwr. Ceir gwybodaeth isod am y cymwysterau prentisiaeth sydd ar gael yn ABUHB ar hyn o bryd. Bydd angen i’r holl staff sy’n llwyddo i ennill lle gyflawni sgan sgiliau a fydd yn eu cynorthwyo gyda’u dewis o brentisiaeth.
Gyda Fframwaith Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd newydd Llywodraeth Cymru ar waith, disgwylir erbyn hyn bod pob Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn meddu ar gymhwyster Lefel 2 o leiaf, neu’n gweithio tuag ato.
Mae’r cymwysterau Prentisiaeth seiliedig ar waith canlynol a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gael i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
PRENTISIAETHAU ARWEINYDDIAETH A RHEOLAETH
Arweinyddiaeth a Rheolaeth – Addas ar gyfer pawb o darpar reolwyr/goruchwylwyr i reolwyr canol.
- Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) – bwriedir iddi roi sylfaen gadarn i arweinwyr tîm gweithredol neu ddarpar arweinwyr tîm yn y datblygiad ffurfiol fel arweinydd.
- Prentisiaeth Is-reolwyr (Lefel 3) – delfrydol i reolwyr ag amrywiaeth o gyfrifoldebau, ar gyfer e.e.: dyrannu gwaith i gydweithwyr tîm, rheoli adnoddau ariannol a ffisegol a rhyw lefel o wneud penderfyniadau. Nod y cymhwyster hwn yw rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu perfformiad rheoli a dod yn arweinwyr mwy effeithiol.
- Rheoli (Lefel 4) – mae rheolwyr sy’n gweithredu ar Lefel 4 yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o bennu a chefnogi amcanion sefydliadol trwy amrywiaeth eang o swyddogaethau. Gallai’r rhain gynnwys: darparu arweinyddiaeth a rheolaeth, datblygu a gweithredu cynlluniau gweithredol a datblygu cysylltiadau gwaith gyda rhanddeiliaid.
- Prentisiaeth Uwch (Lefel 5) – fe’i bwriedir ar gyfer rheolwyr profiadol sy’n rheoli rheolwyr eraill ac sydd â rhywfaint o gyfrifoldeb am ddatblygu a gweithredu strategaeth yn eich rhan chi o’r sefydliad.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais ar gyfer y prentisiaethau Arweinyddiaeth a Rheolaeth a Chymorth Gofal Iechyd Clinigol isod, cysylltwch â Jackie, y Cydgysylltydd ACT yn Jacqueline.davies10@wales.nhs.uk
PRENTISIAETHAU CYMORTH GOFAL IECHYD CLINIGOL
Cymorth Gofal Iechyd Clinigol – Addas ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd sy’n gweithio mewn lleoliadau clinigol.
- Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) – fe’i bwriedir ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd mewn lleoliad clinigol, gan alluogi staff i ennill gwybodaeth dechnegol a phrofiad ymarferol ynghyd â sgiliau hanfodol a phersonol sy’n ofynnol ar gyfer eu swydd.
- Prentisiaeth (Lefel 3) – fe’i bwriedir ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd mewn lleoliad clinigol a fyddai’n cynnal asesiadau risg hyfywedd meinwe, yn cynnal mesuriadau ffisiolegol, yn cymryd ac yn profi samplau gwaed capilarïaidd, gwythïen-bigiadau ac electrocardiograff (ECG).
I gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais ar gyfer y prentisiaethau Arweinyddiaeth a Rheolaeth a Chymorth Gofal Iechyd Clinigol isod, cysylltwch â Jackie, y Cydgysylltydd ACT yn Jacqueline.davies10@wales.nhs.uk
PRENTISIAETHAU GWASANAETHAU CWSMERIAID
Gwasanaethau Cwsmeriaid Lefel 2 a Lefel 3 – Addas ar gyfer unrhyw un sy’n darparu cymorth i’r bobl hynny sy’n defnyddio Gwasanaethau ABUHB.
- Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) – fe’i bwriedir ar gyfer staff sy’n gweithio gydag eraill i ddatrys problemau, i gynorthwyo gwelliannau gwasanaethau cwsmeriaid ac sydd angen cyfathrebu yn eglur ac yn hyderus yn eu swyddi.
- Prentisiaeth (Lefel 3) – fe’i bwriedir ar gyfer rhywun sy’n darparu ac yn rheoli gwasanaeth cwsmeriaid neu sydd mewn swydd sy’n cynnwys rhannu a gweithredu newidiadau i wella gwasanaethau cwsmeriaid.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais ar gyfer y prentisiaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gweinyddu Busnes a Chyngor a Chyfarwyddyd isod, cysylltwch â Sharon Hadley, Cymorth Busnes yn sharon.hadley@wales.nhs.uk
PRENTISIAETHAU GWEINYDDU BUSNES
Gweinyddu Busnes Lefel 2, 3 a 4 – Addas ar gyfer pobl mewn swyddi gweinyddu.
- Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) – yn rhoi gwybodaeth ymarferol dda o alwedigaeth a dealltwriaeth ohoni. Mae’n dangos gallu cyflogai i gyflawni amrywiaeth o dasgau gyda rhywfaint o gyfarwyddyd a goruchwyliaeth.
- Prentisiaeth (Lefel 3) – yn cydnabod sgiliau gwaith cymhleth sy’n cynnwys gallu goruchwylio. Mae’n dangos sgiliau arwain tîm a sgiliau arbenigol ynghyd â chymhwysedd o ran cyfathrebu, datrys problemau a gwaith tîm wedi’i gymhwyso.
- Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) – fe’i bwriedir ar gyfer unigolion sy’n gweithio ar lefel uwch â chyfrifoldebau am reoli systemau, prosiectau ac adnoddau.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais ar gyfer y prentisiaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gweinyddu Busnes a Chyngor a Chyfarwyddyd isod, cysylltwch â Sharon Hadley, Cymorth Busnes yn sharon.hadley@wales.nhs.uk
PRENTISIAETHAU CYNGOR A CHYFARWYDDYD
Cyngor a Chyfarwyddyd – Addas i bobl sy’n gweithio mewn swyddi sy’n darparu cyngor a chyfarwyddyd.
- Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) – fe’i bwriedir ar gyfer y rhai mewn swyddi cyngor a chyfarwyddyd fel Gweinyddwyr Adnoddau Dynol, cydgysylltwyr prosiect, swyddogion cyswllt.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais ar gyfer y prentisiaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gweinyddu Busnes a Chyngor a Chyfarwyddyd isod, cysylltwch â Sharon Hadley, Cymorth Busnes yn sharon.hadley@wales.nhs.uk