AMDANOM NI
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw enw gweithredol Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan. Sefydlwyd y Bwrdd Iechyd ar 1 Hydref 2009 ac mae’n gwasanaethu ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen a De Powys.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyflogi mwy na 13,000 o staff ac mae dwy ran o dair ohonynt yn ymwneud â gofalu’n uniongyrchol am gleifion. Mae mwy na 250 o feddygon ymgynghorol o blith cyfanswm o fwy na mil o feddygon ysbyty a meddygon teulu, chwe mil o nyrsys, bydwragedd, gweithwyr proffesiynol perthynol a gweithwyr cymunedol.
Caiff y Bwrdd Iechyd ei arwain gan y Cadeirydd, cyfarwyddwyr anweithredol, y Prif Weithredwr a chyfarwyddwyr gweithredol eraill. Mae’r Bwrdd yn cael cefnogaeth y Tîm o Uwch-reolwyr.
Ni fydd y niferoedd hyn ond yn cynyddu wrth inni agor Ysbyty Athrofaol gofal critigol newydd sbon â 450 o welyau yn 2021.
GWASANAETHAU SYLFAENOL A CHYMUNEDOL
Mae Gwasanaethau Sylfaenol a Chymunedol wrth wraidd cyflawniad y Model Dyfodol Clinigol yng Ngwent.
Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys:
Mae’r gwasanaethau hyn yn hanfodol i gynorthwyo poblogaeth Gwent i gynnal a gwella’i hiechyd a’i lles. Cydran graidd o gyflawni hyn yw trwy gryfhau ein perthynas a’r cymorth rhwng gwasanaethau sylfaenol, cymunedol ac iechyd meddwl. Mae hyn yn galluogi ein cleifion i dderbyn triniaethau amserol yn eu cartref neu’r gymuned leol.
Mae enghreifftiau o fuddsoddiad o’r fath yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys ein Gwasanaethau Nyrsio Ardal 24 awr, cynlluniau Cadw’n Iach i drigolion hŷn, Iechyd Integredig, a Thimau Adnoddau Cymunedol Gofal Cymdeithasol, sy’n galluogi cleifion i gael eu hasesu a’u cynorthwyo yn eu cartrefi eu hunain.
Mae agor Ysbyty Athrofaol y Faenor yn ei gwneud yn bosibl i gyflwyno gofal yn nes at gartref yn gyflym gyda buddion megis gwell gofal i gleifion, profiad gwell i gleifion ac o bosib lleihau derbyniadau i ysbytai.
Y RHAGLEN DYFODOL CLINIGOL
Beth yw’r Rhaglen Dyfodol Clinigol ?
Mae ein Strategaeth Dyfodol Clinigol yn nodi sut rydym ni’n ceisio cael cydbwysedd gwell o ran gofal drwy wneud y canlynol:
- darparu’r rhan fwyaf o ofal yn agos i’r cartref
- creu rhwydwaith o ysbytai lleol sy’n cynnig gwasanaethau diagnosis a thriniaeth arferol
- canoli gwasanaethau gofal arbenigol a chritigol mewn Canolfan Gofal Arbenigol a Chritigol pwrpasol.
Y Rhaglen Dyfodol Clinigol
STATWS PRIFYSGOL
Ym mis Tachwedd 2013 dyfarnwyd statws anrhydeddus Prifysgol inni, ac fe lansiwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn swyddogol gan y Gweinidog Iechyd ym mis Mawrth 2014.
Dyfarnwyd statws prifysgol i’r Bwrdd Iechyd yn 2013 oherwydd ei fod yn gallu dangos bod gweithgareddau academaidd amrywiol a niferus yn digwydd gan gynnwys dysgu a gwaith ymchwil. At hyn, roedd cydnabyddiaeth i’r ymrwymiad i welliant a rhagoriaeth parhaus, ac i gynyddu’r ddealltwriaeth o sut i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol ac o ansawdd gwell. Gan adeiladu ar lwyddiannau 2013, mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol wedi cynnal ac ehangu ystod y fath weithgareddau ac mewn sawl maes mae bellach ar flaen y gad mewn agweddau penodol o arloesi a dysgu yn y byd iechyd, er enghraifft, mewn Gofal Iechyd Seiliedig ar Werthoedd.
“‘Athroniaeth Prifysgol’ Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw meithrin diwylliant cryf o ddysgu, ymchwil ac arloesi, sy’n cyfrannu at waith ymarferol. Mae’r Bwrdd Iechyd yn credu y bydd y gweithgareddau hyn yn cynyddu mewn nifer ac ansawdd pan gânt eu hystyried yn weithgareddau craidd a’u cynnig i gleifion yn rhan o ofal clinigol arferol.”
Beth mae Statws Prifysgol yn ei olygu i’n Cymuned?
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cydnabod bod diben cael statws Prifysgol yn gwbl hanfodol; yn gyntaf at ddibenion sicrwydd fel y gall y Bwrdd Iechyd Prifysgol ddangos y bu’n llwyddiannus yn ei ymdrechion academaidd, h.y. drwy gynnig manteision o ran iechyd, lles, addysg ac adfywio economaidd er lles cleifion a’r boblogaeth; ac yn ail fel y gall y Bwrdd Iechyd Prifysgol, drwy Fwrdd Partneriaeth Academaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ddatblygu strategaeth academaidd a rhaglen waith flaengar sy’n seiliedig ar fesurau deilliant deallus, cysylltiedig â’r cleifion. Bydd hyn yn arwain yn y pen draw at ddealltwriaeth well o ‘beth weithiodd a beth na weithiodd’.
Mae’r sêl bendith i Ysbyty Athrofaol y Faenor yn rhoi egni a phwyslais newydd i drawsnewid gwasanaethau, a fydd yn gweld cyflwyno llwybrau gofal arloesol a swyddogaethau newydd. Mae statws Prifysgol a’r gweithgareddau a’r seilwaith cysylltiedig, a sefydlwyd ac a gryfhawyd yn y blynyddoedd diweddar, yn darparu’r sylfaen hanfodol ar gyfer y trawsnewid hwnnw. Mae’r diwylliant a’r arferion mae statws Prifysgol yn esgor arnynt wedi creu’r amgylchedd angenrheidiol, ac wedi paratoi’r gweithlu, i weithredu’r trawsnewid hwnnw.