Prentisiaethau
BWRDD IECHYD PRIFYSGOL
ANEURIN BEVAN

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi bod yn cymryd rhan yn y rhaglen Brentisiaeth ers blynyddoedd lawer. Rydym yn awyddus i ehangu’r cyfleoedd i’r gymuned leol drwy gynnig y rhaglen brentisiaeth er mwyn ein galluogi i roi cyfle i unigolion lleol weithio ym maes gofal iechyd heb orfod meddu ar y sgiliau a’r profiad hanfodol.

Cyflogir prentisiaid i ymgymryd â rôl benodol, tra’n cael eu cefnogi i gyflawni cymhwyster prentisiaeth fodern a gaiff ei gydnabod yn genedlaethol. Gall hyn gynnwys rôl Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, rôl weinyddol, gwasanaethau cymorth a llu o gyfleoedd eraill.

Rydym yn gweld prentisiaethau fel cyfle i wneud y mwyaf o botensial ein gweithlu yn y dyfodol drwy ymgysylltu â’n staff profiadol, er mwyn iddynt drosglwyddo eu sgiliau a’u profiadau i eraill a darparu cymorth i unigolion drwy eu dysgu.

Mae prentisiaid yn gweithio tuag at gymwysterau sy’n seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd ar Lefel 2 (megis NVQ Lefel 2) ynghyd â Sgiliau Hanfodol.

Mae prentisiaethau yn ffordd hollbwysig o ddatblygu ein gweithlu presennol yn ogystal â gweithlu’r dyfodol er mwyn sicrhau eu bod yn fedrus ac yn gymwys yn eu rôl i sicrhau y gallwn ddarparu’r gofal gorau posibl i’n cleifion.

Mae llawer o fanteision yn deillio o ymuno â’r rhaglen brentisiaeth gan gynnwys:

  • Ennill wrth ddysgu – Nid oes rhaid i’r prentis dalu unrhyw ffioedd am y cwrs y maent yn ei ddilyn ac maent yn ennill cyflog wrth ddysgu. At hyn, maent yn ennill cymhwyster a gaiff ei gydnabod yn genedlaethol.
  • Cefnogaeth yn ystod hyfforddiant – Mae’r cyflogwr a’r darparwr hyfforddiant yn darparu ystod o gefnogaeth i’r Prentis yn ystod y brentisiaeth.
  • Dilyniant – Wrth i brentisiaethau gael eu hyfforddi yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt, mae llwybrau pendant yn cael eu creu ar eu cyfer wedi iddynt orffen eu Prentisiaeth.

Beth sydd angen er mwyn gwneud cais?

Mae’n rhaid i chi:

  • Fod yn berson caredig, gofalgar sy’n angerddol am helpu eraill
  • Gallu dangos sgiliau trosglwyddo, er enghraifft, sgiliau cyfathrebu
  • Bod yn 16+ oed
  • Meddu ar hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd
  • Meddu ar eich TGAU Mathemateg a Saesneg, gradd AE (neu gymhwyster cyfatebol) o leiaf, ac mae’n ddymunol bod gennych o leiaf 5 TGAU gradd A-E gan gynnwys Mathemateg a Saesneg (neu gymhwyster cyfatebol).
  • Gallu dangos parodrwydd i weithio’n galed

Ni allwch fod yn:

  • Meddu ar gymhwyster Lefel 3 llawn sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen Brentisiaeth yr hoffech wneud cais amdani
  • Bod mewn unrhyw addysg ffurfiol a ariennir gan y llywodraeth ar adeg cychwyn y Rhaglen Brentisiaeth

Ar gyfer pwy mae prentisiaethau?

Pawb. Gallwch fod newydd ddechrau yn eich gyrfa, yn edrych i newid swydd neu eisiau datblygu eich sgiliau – mae prentisiaeth sy’n addas ar eich cyfer.

Sut mae gwneud cais?

Mae’r cyfleoedd i brentisiaid ar gael arEin Tudalen Swyddi ac maent wedi’u rhestru ar NHS Jobs

Cwblhewch y ffurflen gais a’i chyflwyno.

I gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglen Brentisiaethau, e-bostiwch ni arabb.recruitmentprojects@wales.nhs.uk