DARGANFOD DE-DDWYRAIN CYMRU

Gyda chanol dinasoedd bywiog, trefi marchnad yn ferw o brysurdeb, cysylltiadau cymudo ardderchog, bryniau tonnog, traethau a chefn gwlad i gyd gyda’i gilydd yn cynnig profiad byw anhygoel – nid oes rhyfedd fod De-ddwyrain Cymru yn denu mwy a mwy o drigolion yn flynyddol.

Mae dinasoedd a threfi De-ddwyrain Cymru yn cynnig profiad amrywiol, amlddiwylliannol, ynghyd ag adnoddau cymdeithasol, diwylliannol a hamdden unigryw sydd cystal â’r hyn a geir mewn unrhyw ddinas yn y Deyrnas Unedig (DU).