BANC ADNODDAU
Croeso i Fanc Adnoddau Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae’r Banc Adnoddau yn wasanaeth integredig sy’n darparu staff i’r meysydd canlynol:
- Nyrsio
- Meddygol
- Cyfleusterau
- Gwasanaethau yn y Gymuned
- Deieteg
- Awdioleg
- Clerigol
Mae’r Banc Adnoddau yn darparu staff ar gyfer 200 o sifftiau y dydd ar gyfartaledd. Trefnwch apwyntiad cyn mynd i swyddfeydd y Banc.
MANTEISION GWEITHIO I'R BANC ADNODDAU
Mae llawer o gyfleoedd mewn nifer o feysydd ar Wardiau Cymunedol, Is-adrannau Gofal wedi’i Drefnu a Gofal heb ei Drefnu, Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu ar bob safle ysbyty/lleoliadau ar draws y Bwrdd Iechyd Prifysgol (yn cynnwys De-orllewin Cymru).
Rydym yn gofalu am ein cleifion 7 diwrnod yr wythnos, 24 awr y dydd felly bydd angen bod gennych yr hyblygrwydd i weithio sifftiau yn ystod y nos a dros y penwythnos.
Gall y Banc Adnoddau fod yn ddelfrydol i CHI:
- Os nad ydych yn gallu ymrwymo i swydd barhaol at hyn o bryd?
- Os yw ymrwymiadau teuluol neu eraill yn eich rhwystro rhag gweithio’n llawn amser neu mewn patrwm rheolaidd?
- Os ydych chi eisiau cynnal eich sgiliau proffesiynol?
- Os hoffech gael profiad mewn meysydd newydd?
Manteision Gweithio i’r Banc:
- Oriau gweithio hyblyg
- Pensiwn
- Tâl wythnosol
- Datblygiad a Phrofiad mewn nifer o feysydd
- Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
Gwaith ar gael mewn lleoliadau amrywiol a diddorol.
BETH YW LOCWM ACHLYSUROL?
Mae Locwm Ad-Hoc yn feddyg sy’n dymuno gwneud ei sifftiau mewn modd ad-hoc. Fodd bynnag, cyn cychwyn fel locwm ad-hoc, bydd angen i chi wneud cais drwy Patchwork a chwblhau gwiriadau cyn cyflogaeth.
Beth sydd angen i chi ei wneud os ydych yn dymuno ymuno fel Locwm Ad-Hoc?
Bydd angen i chi wneud cais drwy’r Ap Patchwork. Unwaith y byddwch wedi ymgeisio bydd yr adran Recriwtio Meddygol yn cael eu hysbysu a byddant yn anfon dogfennau atoch a fydd angen eu cwblhau a’u prosesu cyn i chi ymgymryd ag unrhyw sifftiau ad-hoc.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â pholisïau ail-leoli, ewch i Recriwtio Meddygol
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae gennym amrywiaeth helaeth o rolau, o Wasanaethau Gwyddorau Iechyd, Gweinyddol a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd. I gael gwybodaeth am y swyddi hyn, cliciwch ar y blychau gwybodaeth isod.