Ein Gwerthoedd

Rydym am i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fod yn lle pleserus a boddhaus i weithio ynddo. Rydym yn gwybod bod teimlo’n cael eich gwerthfawrogi yn y gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar staff a chleifion.

Caredigrwydd

Mae caredigrwydd wrth galon y ffordd yr ydym yn gofalu am ein cleifion, am ein gilydd ac am ein hunain. Mae’n golygu dangos empathi a thosturi a rhoi ein anghenion a’n profiadau ein hunain yn ogystal ag anghenion a phrofiadau eraill wrth galon popeth a wnawn.

Gonestrwydd

Rydym yn gweithredu gyda gonestrwydd, tegwch a thryloywder – gwneud y peth iawn, cymryd cyfrifoldeb, ac ennill ymddiriedaeth eraill. Rydym ni ac eraill yn atebol am ein gweithredoedd a’n penderfyniadau.

Parch

Rydym yn trin pawb gydag urddas a thegwch, gan ddathlu amrywiaeth a chreu diwylliant ble mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a’u gwerthfawrogi.

Mae’r gwerthoedd hyn yn fwy na geiriau – maent yn cynrychioli pwy ydym ni, y ffordd yr ydym yn gweithio gyda’n gilydd a’r diwylliant yr ydym eisiau ei greu ar gyfer ein cleifion, ein cydweithwyr a’n cymunedau.

Values Poster
Aneurin Bevan
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.