CYFLOGWR CYFLEOEDD CYFARTAL
Mae hi’n bwysig i ni eich bod yn teimlo y gallwch chi ddod â phob agwedd ar eich hun i’ch gwaith. Rydym ni’n ymroi i hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau dynol, i’n gweithwyr a’r cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu.
Rydym ni’n cydnabod mai hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yw’r allwedd i sicrhau’r profiad gorau posibl i’n staff a bod hynny’n arwain at y cyfleoedd bywyd a’r canlyniadau iechyd gorau i’n cymuned. Rydym ni wedi ymrwymo i weithio mewn modd sy’n seiliedig ar hawliau dynol. Mae hyn yn golygu y caiff egwyddorion a safonau hawliau dynol eu hymgorffori yn ein gwaith.
Y pum egwyddor graidd yw:
- Rhoi egwyddorion a safonau hawliau dynol wrth wraidd polisïau a chynllunio
- Sicrhau atebolrwydd
- Grymuso
- Cyfranogi a chymryd rhan
- Peidio â chamwahaniaethu, a rhoi sylw i grwpiau sy’n agored i niwed.
Mae’r egwyddorion hyn yn rhan greiddiol o’n gweledigaeth a’n gwerthoedd. Ein gwerthoedd o ran bod yn Fwrdd Iechyd Prifysgol yw:
Mae ein Fframwaith Gwerthoedd ac Arferion yn cefnogi gweledigaeth y Bwrdd Iechyd Prifysgol, sef:
- Gweithio gyda chi i greu cymuned iachach
- Gofalu amdanoch chi pan fo chi ein hangen ni
- Anelu at ragoriaeth ym mhopeth a wnawn
Ein Gwerthoedd
IECHYD GALWEDIGAETHOL
Mae Adran Iechyd Galwedigaethol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn wasanaeth cynghori cwbl gyfrinachol, annibynnol ar y rheolwyr, a sefydlwyd i warchod iechyd, diogelwch a lles ein gweithwyr. Mae’r gwasanaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf a’i ddiben yw sicrhau bod aelodau ein gweithlu, presennol a dyfodol, yn gorfforol ac yn seicolegol abl i wneud eu gwaith.
Mae’r gwasanaeth hefyd yn ceisio sicrhau nad yw’r amgylchedd gwaith yn cael effaith negyddol ar iechyd gweithwyr. Mae’n ymdrechu i roi cyngor iechyd galwedigaethol diduedd i holl staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
I gyflawni hyn, mae gennym ni dîm o staff Iechyd Galwedigaethol hynod fedrus sy’n gyson yn arwain y gwasanaeth ar y cyd a gyda thosturi. Mae hyn yn galluogi model o welliant parhaus i fod yn sail i’n gwasanaethau er mwyn gwneud yn fawr o effeithlonrwydd, effeithiolrwydd, medrusrwydd a gallu.
Dyma’r ystod o wasanaethau rydym ni’n eu cynnig ar hyn o bryd:
- Cyngor ar adfer ac adleoli
- Cyngor ar reoli materion iechyd yn y gweithle
- Rheoli anafiadau halogiad e.e. anafiadau oherwydd nodwyddau
- Ffisiotherapi ar gyfer problemau cyhyrysgerbydol
- Asesiadau iechyd cyn-leoliad
- Rhaglenni imiwneiddio / brechu ar gyfer diogelwch yn y gwaith
- Adnabod peryglon yn y gweithle
- Goruchwylio iechyd o ran dod i gysylltiad â sylweddau peryglus
- Cyngor ar reoli damweiniau / salwch yn gysylltiedig â gwaith
- Cyngor ar addasrwydd ar gyfer ymddeoliad cynnar ar sail gwaeledd
- Cyngor ar faterion ynglŷn ag anabledd
- Cyngor ar Iechyd a Diogelwch
- Profion llygaid ar gyfer pobl sy’n defnyddio offer cysylltiedig â sgriniau arddangos
- Cyngor ynglŷn â ffordd iach o fyw
- Cyngor a gwybodaeth ar asiantaethau allanol a allai roi rhagor o gymorth
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am swydd-ddatblygiad a datblygu sgiliau ym maes nyrsio iechyd galwedigaethol yma.
GWOBR CYDNABOD STAFF
Mae’r Bwrdd Iechyd yn cydnabod ac yn gwobrwyo cyflawniadau staff. Cydnabyddir presenoldeb perffaith dros gyfnod o ddeuddeg mis â thystysgrif a chyfle i gymryd rhan mewn raffl. Gall unigolion neu dimau sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol at ofal iechyd gael eu henwebu ar gyfer nifer o wobrau mewn categorïau amrywiol. Caiff yr enwebiadau eu hasesu gan banel o arbenigwyr. Mae gwobrau yn amrywio o fwrsariaethau hyfforddi – hyd at dystysgrifau cyflawni.
PENSIWN GIG (CYNLLUN BLWYDD-DALIADAU)
Mae aelodaeth Cynllun Blwydd-daliadau’r GIG ar gael i holl staff y gwasanaeth iechyd. Chwech y cant o gyflog gros sylfaenol yw graddfa’r cyfraniadau. Hefyd, mae’n bosibl gwneud cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol drwy gynllun Pensiwn y GIG sydd ar gael i bob aelod o staff.
Penswiwn GIG
AMGYLCHEDD DI-FWG
Mae’r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i’w bolisi “Dim Ysmygu” sydd â’r nod o ddarparu amgylchedd di-fwg i bobl nad ydynt yn ysmygu ac ar yr un pryd yn annog hybu iechyd i gleifion, staff ac ymwelwyr. Anogir staff sy’n dymuno rhoi’r gorau i ysmygu i ymweld â’r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol lle y rhoddir cymorth a chyngor am ddim.
ARFERION GWEITHIO HYBLYG
Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn ymrwymedig i weithredu dulliau hyblyg o weithio ar gyfer staff. Mae cyfleoedd gweithio’n hyblyg yn cynnwys gweithio’n rhan-amser, gweithio yn ystod tymhorau ysgol yn unig, lleihau oriau’n wirfoddol a rhannu swydd. Mae gan Y Bwrdd Iechyd agwedd hyblyg at faterion megis absenoldeb mabwysiadu, seibiant gyrfa ac absenoldeb oherwydd rhesymau domestig neu bersonol. Mae gan Y Bwrdd Iechyd asiantaeth staffio amlddisgyblaeth a reolir yn fewnol. Mae’r asiantaeth yn darparu lleoliadau dros dro byr a hirach ar draws pob arbenigedd yn y Bwrdd Iechyd.
GOSTYNGIADAU I STAFF
Mae staff Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn elwa o ostyngiadau gyda nifer o siopau lleol ac ar-lein: www.nhsdiscounts.com a Buddion i Staff Gofal Iechyd. Hefyd, mae gostyngiad aelodaeth gorfforaethol ar gael i staff mewn nifer o gyfleusterau iechyd a hamdden. Mae holl fwytai’r Bwrdd Iechyd yn rhoi 10% o ostyngiad i staff sy’n gwisgo eu bathodyn adnabod. Mae’r Bwrdd Iechyd yn darparu bws am ddim rhwng Ysbyty Brenhinol Gwent a’r brif orsaf fysiau yng Nghasnewydd.
YR IAITH GYMRAEG/IAITH ARWYDDION
Mae’r Bwrdd Iechyd yn hyrwyddo’r Iaith Gymraeg yn frwd. Mae cyfleoedd hyfforddiant ar gael i staff sy’n dymuno dysgu Cymraeg. Hyrwyddir Iaith Arwyddion hefyd ac mae hyfforddiant ar gael yn rhwydd.
HYFFORDDIANT A DATBLYGIAD
Mae gan y Bwrdd Iechyd raglenni hyfforddi rheolwyr sydd wedi’u eu hachredu’n genedlaethol. Mae’r dewis o gyrsiau sydd ar gael yn darparu ystod o ddigwyddiadau hyfforddiant o ganolfannau datblygu awyr agored i ddarlithoedd mewnol ffurfiol. Mae’r rhaglenni hyfforddi rheolwyr yn targedu staff ar bob lefel, o raddau goruchwylio i reolwyr
uwch a chlinigwyr. Mae amrywiaeth y rhaglenni yn ategu ymrwymiad yr ymddiriedolaeth i ddarparu gwasanaeth sydd wedi’i ganolbwyntio ar gwsmeriaid ac sydd wedi’i reoli’n dda.
Hefyd, mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gyfer staff proffesiynol ac ategol, gan gynnwys hyfforddiant clinigol, hyfforddiant NVQ, hyfforddiant TG a hyfforddiant iechyd a diogelwch. Darperir rhaglen gynhwysfawr o weithdai undydd datblygiad personol parhaus i staff sy’n dymuno gwella eu gwybodaeth am faes penodol heb ddilyn rhaglen ddwys.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi datblygu cysylltiadau gwaith agos â cholegau a phrifysgolion lleol ac mae’n falch o gynghori neu gefnogi staff sy’n dymuno astudio ar gyfer cymwysterau academaidd uwch neu ôl-raddedig.
Lleolir canolfannau meddygol ôl-raddedig ar safleoedd y tri ysbyty acíwt ac maent yn cynnal hyfforddiant amlddisgyblaethol mewn ystod o arbenigeddau ynghyd â darparu addysg benodol ar gyfer meddygon dan hyfforddiant.
CYNLLUN FFRINDIAU LGBT
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gyflogwr cyfle cyfartal. Ein nod yw denu pobl ag uchelgais a thalent, beth bynnag fo’u cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd neu unrhyw nodweddion gwarchodedig eraill. Mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithio’n galed i greu gweithle cynhwysol a theg ar gyfer ein staff. Mae ein cynllun ffrindiau LGBT yn ddatganiad pwerus iawn o hynny. Mae’r cynllun yn anfon neges gref i staff LGBT fod cynhwysiant yn gyfrifoldeb i bawb.
Dywed cadeirydd y Grŵp Cynghori LGBT “Rydym yn sicrhau bod staff yn teimlo’n rhydd i ddod a’u hunain yn eu cyfanrwydd i’r gweithle. Rydym o’r farn bod hyn yn eu helpu i ddatblygu perthnasoedd gweithio cryf â chydweithwyr, i berfformio hyd eithaf eu gallu ac i gynnig y gofal gorau posibl i gleifion”.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn aelod o Raglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall ac mae’n cymryd rhan ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall bob blwyddyn.
YN FALCH O GEFNOGI EIN LLUOEDD ARFOG
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB) yn falch o gefnogi’r Lluoedd Arfog ac mae ganddo nifer o weithgareddau ar y gweill sy’n cefnogi Milwyr wrth Gefn, Cyn-filwyr, Cadetiaid, Cadetiaid Lluoedd Gwirfoddol aeddfed a gwŷr, gwragedd a phlant personél sy’n gwasanaethu.
Cyfamod y Lluoedd Arfog:
- Mae ABUHB wedi ymrwymo i gyfamod y Lluoedd Arfog ac yn falch o fod wedi ennill y Wobr Cydnabod Cyflogwyr Arian. Rydym yn gweithio tuag at sicrhau’r Wobr Aur.
Gwobr Cydnabod Cyflogwr y Gwasanaeth Amddiffyn:
- Mae’r Cynllun Gwobr Cydnabod Cyflogwyr y Gwasanaeth Amddiffyn (ERS) yn annog cyflogwyr i gefnogi’r gwasanaeth amddiffyn ac i ysbrydoli eraill i wneud felly. Mae’r cynllun yn cynnwys gwobrau efydd, arian ac aur ar gyfer sefydliadau cyflogi sy’n addo, dangos neu argymell cefnogaeth i’r gwasanaeth amddiffyn a chymuned y lluoedd arfog ac sydd yn trefnu eu gwerthoedd yn ôl Cyfamod y Lluoedd Arfog.
- Ar hyn o bryd mae gan ABUHB y Wobr Cydnabod Cyflogwr Arian ac yn ddiweddar, cyflwynodd gais am y Wobr Aur.
Gyrfaoedd Milwyr wrth Gefn gydag ABUHB:
Mae ABUHB yn falch o gefnogi Milwyr wrth Gefn, Cyn-filwyr, Cadetiaid a Chadetiaid Gwirfoddol sy’n oedolion i gyfuno eu gyrfaoedd y tu mewn ac y tu allan i’r Lluoedd Arfog.
- Cysylltiad agos â nifer o Gatrodau lleol ac yn arbennig yr Ysbyty Maes (203) a Chatrawd y Magnelwyr Brenhinol (104) i gefnogi nifer o aelodau o staff i weithio mewn dwy yrfa, yn y GIG ac yn y gwasanaeth wrth gefn.
-
- Mae ABUHB wedi llwyr fabwysiadu Polisi Milwyr Wrth Gefn Cymru a gellir cael copi ohono yma.
- Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i gefnogi’r rhai sy’n gadael y Lluoedd Arfog i sefydlu gyrfaoedd sifilaidd pan fyddant yn ymadael.
- Datblygu cyfleoedd gweithio’n hyblyg ar gyfer gwŷr a gwragedd personél y Lluoedd Arfog.
Gwasanaethau Gofal Iechyd:
Mae ABUHB yn falch o gefnogi ystod o wasanaethau llwybr carlam ac arbenigol ar gyfer y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd.
Gwybodaeth Bellach:
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth yr ydym yn gallu ei chynnig i’r Lluoedd Arfog, cysylltwch â Daniel.madge@wales.nhs.uk
MEITHRINFA NEUADD NEVILL
Mae meithrinfa Neuadd Nevill yn feithrinfa gofal dydd gofrestredig sydd wedi bod yn darparu gofal plant o ansawdd uchel am 34 o flynyddoedd.
Mae’r feithrinfa wedi’i lleoli ar safle Ysbyty Neuadd Nevill yn Y Fenni a chedwir lleoliadau blaenoriaeth i staff y GIG. Ceir lleoliadau i rai nad ydynt yn staff y GIG hefyd.
Mae meithrinfa Neuadd Nevill yn elusen gofrestredig a gynhelir er lles ei haelodau h.y. y plant sy’n mynychu’r feithrinfa ar hyn o bryd ac mae’n sefydliad dielw. Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol bob blwyddyn er mwyn ethol aelodau’r Pwyllgor. Y Person â Gofal o ddydd i ddydd yw Elaine White.
Rydym yn Feithrinfa Ddydd gofrestredig ac yn Ddarparwr Addysg cofrestredig ac felly yn cyflawni gofynion Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a’r Awdurdod Addysg Lleol. Rydym yn lleoliad cyfrwng Saesneg sy’n annog y defnydd o’r Gymraeg. Ein rhif cofrestru AGGCC yw W15/00001062/000. Rydym yn rhan o Gymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru
Cysylltwch â ni ar 01873 732665