Mae 4 cangen nyrsio – Oedolion, Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu, Bydwreigiaeth a Phaediatreg. Mae swyddi Nyrsio a Bydwreigiaeth yn rhoi boddhad mawr sy’n cael effaith gadarnhaol ar gleifion a’u teuluoedd. P’un a ydych chi’n nyrs newydd gymhwyso neu wedi bod ym maes nyrsio am flynyddoedd, gall ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan eich helpu i gael mwy o’ch gyrfa. Rydym yn cynnig cyfleoedd datblygu gwych i bobl sy’n dymuno rhagori yn eu gyrfa.