OPTOMETRYDDION
Mae optometryddion yn gweithio mewn lleoliadau amrywiol, gan gynnwys ysbytai, optometryddion y stryd fawr, ymchwil, addysgu, a lleoliadau iechyd eraill. Os ydych chi’n gweithio mewn ysbyty neu glinig, byddwch yn asesu ac yn trin y rhai sydd fwyaf angen sylw brys. Efallai y byddwch chi hefyd yn gweithio mewn canolfannau iechyd lleol a chlinigau cymunedol. Gallech chi hefyd fod yn gwneud gwaith cysylltiedig mewn labordy neu mewn lleoliad diwydiannol.
Wrth fod yn optometrydd wedi’i gyflogi gan y GIG, byddwch wedi eich cynnwys yng ngraddfa gyflog a thelerau ac amodau yr Agenda ar gyfer Newid. Bydd staff yn y GIG yn gweithio 37.5 awr yr wythnos safonol (llawn amser) fel arfer. Efallai byddan nhw’n gweithio patrymau sifft. Bydd staff y GIG hefyd yn cael eu cofrestru’n awtomatig i gynllun pensiwn y GIG ac yn cael rhwng 27 a 33 diwrnod o wyliau blynyddol, a Gwyliau Banc (yn dibynnu ar wasanaethau blaenorol).
Wrth fod yn optometrydd dan hyfforddiant mewn ysbyty, byddech fel arfer yn dechrau ar fand 4. O fod yn optometrydd cymwysedig a chofrestredig byddech yn dechrau ar fand 6. Yn dilyn rhagor o hyfforddiant, addysg a phrofiad, gallech ymgeisio am swyddi uwch fel optometrydd arbenigol ar fand 7 neu brif optometrydd ar fandiau 8a – 8b.
O fod yn optometrydd ymgynghorol neu’n bennaeth gwasanaeth, gallech fod ar fand 8d.