Nyrsio

GWEITHIO MEWN SWYDD NYRS I YSBYTY PRIFYSGOL ANEURIN BEVAN

Gall nyrsys gael gyrfa mewn amrywiaeth o feysydd arbenigol mewn gwasanaethau sylfaenol a chymunedol.

Nyrsys Ardal/Cymunedol: mae’r rhain yn gwneud gwahaniaeth i fywyd bob dydd y bobl y maen nhw’n ymweld â nhw yn eu cartref neu mewn cartrefi gofal preswyl. Maen nhw’n darparu gofal cynyddol gymhleth i gleifion a chymorth i aelodau’r teulu.

Wrth fod yn Nyrs Gymunedol byddwch yn defnyddio dull cyfannol o ddarparu gofal, sy’n canolbwyntio ar y claf. Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth ag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, timau gofal sylfaenol a gweithwyr proffesiynol eraill mewn sectorau statudol, annibynnol a gwirfoddol i ddarparu amrywiaeth o ymyraethau a gwasanaethau i ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, er mwyn cynorthwyo unigolion a sicrhau eu bod yn cael yr ansawdd bywyd gorau posibl, hyrwyddo annibyniaeth a gwella eu hiechyd.

Byddwch yn darparu gofal nyrsio trwy becynnau gofal nyrsio penodedig, i oedolion ag anghenion tymor byr neu sy’n gaeth i’r ty; neu, sydd â chyflyrau hirdymor neu anghenion cymhleth oherwydd cyflyrau lluosog ac a fyddai’n ei chael hi’n anodd fel arall i gael gafael ar ofal iechyd rheolaidd; neu, y mae angen gofal lliniarol ar ddiwedd oes arnynt.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y broses o drosglwyddo pobl ifanc â diagnosis sylfaenol o angen gofal iechyd, o’r Gwasanaethau i Blant i’r Gwasanaethau Cymunedol i Oedolion. Mae trosglwyddo i’r gwasanaeth i oedolion yn digwydd pan fydd y person ifanc yn cyrraedd ei ben-blwydd yn 18 oed.

Nyrsys Practis: mae’r rhain wedi eu lleoli fel arfer mewn practis meddyg teulu ac yn darparu gofal a chyngor i bob grwp oedran yn y gymuned. Mae swydd nyrs bractis yn amrywiol ac yn cynnwys rhoi cyngor ar reoli clwyfau a’u trin, imiwneiddio plant ac oedolion, atal cenhedlu, cytoleg, a rheoli clefydau hirdymor, fel diabetes, clefyd y galon a chyflyrau anadlol. Mae’r swyddogaeth hon yn hanfodol i gefnogi’r agenda dyfodol clinigol gan fod nyrsys practis yn hyrwyddo iechyd a chyngor ar ffordd o fyw; ac yn annog unigolion i ystyried ymddygiad iach, gan eu cyfeirio at adnoddau a gweithwyr proffesiynol eraill fel y bo’n briodol.

Nyrsys Arbenigol: mae’r rhain yn arbenigwyr mewn maes rheoli clefyd hirdymor, fel gofal lliniarol, hyfywedd meinwe, diabetes, clefydau anadlol, clefyd y galon a dementia. Mae’r nyrsys hyn yn cymryd rhan yng ngofal dilynol cleifion, yn darparu cyngor arbenigol ac yn lleihau’r gofyniad am wasanaethau gofal eilaidd a derbyniadau i’r ysbyty.

Uwch-ymarferwyr Nyrsio: mae’r rhain yn nyrsys profiadol wedi’u haddysgu i Lefel Feistr mewn arfer uwch. Maen nhw’n darparu gofal uwch i gleifion trwy eu gallu i asesu, rhoi diagnosio a thrin cleifion yn annibynnol. Mae uwch-ymarferwyr nyrsio yn gweithio yn rhan o’r Tîm Amlddisgyblaethol ac yn cael gofyn am ganlyniadau profion a’u dehongli, rhagnodi meddyginiaeth, atgyfeirio i arbenigeddau eraill a derbyn a rhyddhau cleifion o’r ysbyty pan fo angen.

YMUNWCH Â’N TÎM

Ydych chi’n awyddus i ymuno â’n Tîm brwdfrydig yn BIPAB? Edrychwch ar ein swyddi gwag presennol.