Therapi Galwedigaethol a Ffisiotherapi

Therapyddion a swyddi eraill yn Ysbyty Prifysgol Aneurin Bevan

THERAPYDDION GALWEDIGAETHOL

Swyddogaeth Therapydd Galwedigaethol yw cefnogi’r cleifion hynny sydd ag anabledd o ganlyniad i salwch, heneiddio neu ddamwain. Bydd y therapydd galwedigaethol yn gweithio gyda chlaf i asesu, datblygu a chefnogi Rhaglen Adsefydlu a fydd yn ystyried ei holl anghenion, gan gynnwys ei anghenion corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac amgylcheddol. Bydd hefyd yn rhoi cyngor ar unrhyw addasiadau y gallai fod eu hangen yn yr amgylchedd gwaith a gartref i’w helpu i gyflawni tasgau bob dydd yn dilyn ei anabledd.

FFISIOTHERAPYDDION

Mae swyddogaethau ffisiotherapi mewn gofal sylfaenol yn asesu ac yn trin cleifion sydd â phroblem neu anaf Cyhyrysgerbydol. Mae defnyddio’r gwasanaeth hwn fel arfer yn digwydd drwy hunangyfeirio neu drwy frysbennu practis Llywio Gofal. Gall ffisiotherapyddion helpu i atal cwympiadau trwy addysgu a chefnogi’r cleifion hynny sydd mewn perygl o gwympo. Mae’r swyddogaeth hon yn hanfodol i leihau’r pwysau ar ofal eilaidd a gall ddarparu camau atal trwy rymuso cleifion â mân gyflyrau cyhyrysgerbydol i liniaru rhagor o niwed.

YMUNWCH Â’N TÎM

Ydych chi’n awyddus i ymuno â’n Tîm brwdfrydig yn BIPAB? Edrychwch ar ein swyddi gwag presennol.