Meddyg
Mae meddygon yn gweithio ym mhob maes gofal iechyd ac mae llawer o bosibiliadau gyrfa. Fel rhan o’ch hyfforddiant meddygol, bydd cyfle i chi weithio ar rai o’r wardiau arbenigol ac yna penderfynu ym mha faes yr hoffech chi arbenigo. Mae rhai o’r meysydd arbenigol yn cynnwys llawdriniaeth, obstetreg a gynaecoleg, oncoleg, anesthesia, radioleg, iechyd rhywiol ac atgenhedlu, meddygaeth frys, ymarfer cyffredinol (meddyg teulu), gofal critigol, meddygaeth, patholeg, seiciatreg, iechyd y cyhoedd, pediatreg, patholeg ac iechyd galwedigaethol.

Deintyddol
Mae swyddi amrywiol ar gael yn y maes deintyddol sy’n helpu i atal a thrin clefyd deintyddol/y geg, cywiro afreoleidd-derau deintyddol, a thrin anafiadau deintyddol ac i’r wyneb. Mae deintyddion yn cyflawni hyfforddiant manwl i feddu ar wybodaeth ardderchog am yr anatomeg ddynol a chlefyd y geg ac maent yn dysgu sgiliau clinigol o ansawdd uchel i helpu i drin cleifion. Mae deintyddion yn gallu gwneud diagnosis a thrin problemau deintyddol sy’n cynnwys rhoi cyngor i gleifion a defnyddio lefelau uchel o ddeheurwydd i gynnal dulliau llawfeddygol a deintyddol cymhleth. Mae swyddi deintyddol eraill fel Hylenydd Deintyddol, Nyrs Ddeintyddol a Thechnegydd Deintyddol hefyd yn cael hyfforddiant manwl ac mae ganddynt wybodaeth ardderchog am anatomeg ddeintyddol i allu cefnogi a thrin cleifion.