Mae llawer o swyddi gweinyddol a chlerigol ar gael, sy’n rhoi cymorth busnes i staff a gwasanaethau clinigol ac anghlinigol. Mae’n rhaid bod y GIG wedi’i drefnu’n dda ac yn cadw cofnodion manwl o gleifion a staff. Mae angen i gleifion a sefydliadau eraill allu cysylltu â’r GIG, i weld neu siarad â’r person cywir sy’n gallu rhoi’r help sydd ei angen arnynt. Gallai hynny fod o ran trefnu apwyntiad, cael cyngor neu dalu anfoneb. Mae rhai swyddi’n cynnwys rolau cynorthwyydd personol, ysgrifennydd, clerciaid wardiau a rolau cymorth.