Cyfle cyffrous i chi gynorthwyo yn Rhaglen Frechu COVID-19. Bydd gofyn i chi weithio ar draws ardal Gwent gyfan, gan frechu yn unrhyw un o’n canolfannau brechu torfol cymunedol gan gynnwys unedau symudol. Mae hon yn swydd unigryw, sy’n hanfodol i’r frwydr yn erbyn COVID-19 yn ardal Gwent a bydd yn cynnwys rhoi brechlyn i weithwyr allweddol, yr henoed a phobl sy’n agored i niwed a thrigolion Sir Fynwy, Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd a Bwrdeistref Sirol Caerffili yn y dyfodol. Dyma ein hamddiffyniad gorau yn erbyn y feirws ochr yn ochr â chadw pellter cymdeithasol effeithiol, gwisgo mwgwd a golchi eich dwylo.
Rydym yn chwilio am bobl sy’n gallu dechrau cyn gynted â phosibl, ar sail cyfnod penodol. Fodd bynnag, efallai y bydd cyfleoedd ar gyfer swyddi eraill ar ddiwedd y contract hwn. Bydd angen i ymgeiswyr hefyd allu gweithio’n hyblyg ar gyfer sifftiau penwythnosau, prynhawn a gyda’r nos.
Yn y swyddi hollbwysig hyn, byddwch yn gweithio yn rhan o dîm deinamig a brwdfrydig i ddarparu gwasanaeth diogel ac effeithiol i roi brechlynnau COVID-19 ar raddfa fawr.
Mae cyfleoedd presennol Tîm Brechu COVID-19 yn cynnwys:
Byddwch yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gyflwyno rhaglen frechu COVID-19 ochr yn ochr â’r Tîm Brechu Torfol ehangach, gyda chefnogaeth ein staff imiwneiddio cofrestredig yn un o’r canolfannau cymunedol.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth oruchwylio staff Imiwneiddio COVID-19 ac wrth ddarparu brechiadau o fewn un o’r canolfannau cymunedol neu unedau symudol.
Croesawu cleifion i’r canolfannau brechu cymunedol, gwirio apwyntiadau a chyfeirio cleifion i mewn i ac oddi mewn i’r Canolfannau Brechu Torfol.
Mae’r swydd hon yn darparu goruchwyliaeth glinigol a gweithredol i’r timau clinigol ac mae’n gyfrifol am oruchwylio’r Canolfannau Brechu Torfol o ddydd i ddydd.
Yn rhan o’r Tîm Fferylliaeth byddwch yn gyfrifol am sicrhau dilysrwydd ac ansawdd y brechlyn ar draws y Bwrdd Iechyd cyfan.
Rydym yn chwilio am staff gweinyddol tosturiol sy’n datrys problemau gyda sgiliau ar lefel alwedigaethol 3 a gwybodaeth am weithdrefnau gweinyddu. Bydd gennych ran bwysig wrth gefnogi’r gwaith o weinyddu’r clinigau drwy wirio pwy yw’r claf a chadarnhau’n electronig ei bresenoldeb yn y clinig.
Sylwer:
Os ydych eisoes wedi gwneud cais am y swydd Imiwneiddiwr, bydd eich cais yn cael ei brosesu, a byddwn mewn cysylltiad cyn bo hir. Os ydych yn weithiwr proffesiynol sydd wedi ymddeol ac yn gallu ymuno â Chofrestr Dros Dro gymwys, gallwch wneud cais o hyd am swydd Brechydd y rhaglen gan ddefnyddio’r llwybr hwn.
I gyflawni’r swydd hon mae’n rhaid i chi fod yn weithiwr gofal iechyd cofrestredig yn un o’r proffesiynau cofrestredig canlynol:
Os ydych yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol gydag un o’r cyrff hyn cewch wneud cais am y swyddi canlynol:
Caiff grwpiau proffesiynol clinigol nad enwir uchod, gan gynnwys unigolion sydd wedi cofrestru’n broffesiynol ond nad ydynt wedi’u cydnabod yn frechwyr yn yr uchod ar hyn o bryd wneud cais am swydd brechwr COVID-19.
Bydd hyfforddiant brechu yn cael ei ddarparu.
Mae cyflogaeth ar y Rhaglen Frechu yn cynnwys gweithio mewn Canolfannau Brechu Torfol cymunedol neu dimau symudol sy’n cynnwys cymysgedd o weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig a gweithwyr cymorth newydd eu recriwtio a’u hyfforddi. Bydd y swydd y cewch wneud cais amdani yn dibynnu ar eich hanes gwaith blaenorol a’ch sgiliau.
Rydym yn chwilio am staff gweinyddol tosturiol sy’n datrys problemau gyda sgiliau ar lefel alwedigaethol 3 gyda gwybodaeth am weithdrefnau gweinyddol. Byddwch yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gynorthwyo’r gwaith o weinyddu’r clinigau drwy wirio pwy yw’r claf a chadarnhau’n electronig ei bresenoldeb yn y clinig.
Mae’r swydd cyfarfod a chyfarch hon yn hanfodol i groesawu cleifion i’r clinig. Mae’r tîm pwysig hwn yn cymryd tymheredd cleifion, yn cofrestru’r claf ac yn eu cyfeirio at lif ein clinigau.
Bydd y swydd allweddol hon yn sicrhau llif diogel a chyson o draffig i mewn ac i ffwrdd o’r Canolfannau Brechu Torfol. Fel y pwynt cyswllt cyntaf i’r cleifion, mae’r swydd hon yn cydgysylltu â staff y dderbynfa a chleifion i reoli oedi o ran amser drwy sicrhau diogelwch cleifion a rheoli amser y llif i mewn i’r clinig.
Mae’r swydd hon yn darparu goruchwyliaeth ac arweiniad o ddydd i ddydd i’r holl weithlu gweinyddol a gwirfoddol mewn clinigau bob dydd.
Pan gewch chi eich recriwtio a phan fyddwch wedi cwblhau’r holl hyfforddiant perthnasol, a’r gwiriadau cydymffurfio perthnasol wedi’u cwblhau, byddwch yn gyfrifol am gyflawni a/neu oruchwylio’r canlynol:
Bydd y broses yn cynnwys ffurflen gais drwy’r dolenni uchod, cwblhau gwiriadau cyn cyflogi, sgrinio iechyd galwedigaethol a chyfweliad ar Teams (nid yw hyn yn cynnwys Myfyrwyr Iechyd Blwyddyn 2).
Os bydd eich cais am un o’r swyddi hyn yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi gael gwiriadau cyn cyflogi a rhaglen o hyfforddiant brechu COVID-19 cyn bod yn barod i ddechrau. Ar hyn o bryd, nid yw’r dyddiadau dechrau wedi’u cadarnhau, ond byddwn yn cyfathrebu â chi drwy gydol y broses ymgeisio i sicrhau eich bod yn barod i ddechrau gweithio cyn gynted ag y bydd y Rhaglen yn gofyn i chi wneud hynny.
Bydd y swyddi hyn yn cael eu cynnig ar sail hyblyg yn un o’n Canolfannau Brechu Torfol. Efallai y gofynnir i chi weithio yn ein hysbytai neu leoliad cymunedol hefyd.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cynnig ystod eang a deniadol o wasanaethau a buddion i'n holl weithwyr, o wobrau Cydnabyddiaeth Staff ac Arferion Gweithio Hyblyg, i gynlluniau fel y LGBT Cynllun Cyfeillion, yn hyrwyddo cydraddoldeb yn y gweithle.
Gyda'i ganol dinasoedd prysur, trefi marchnad fywiog, cysylltiadau cymudwyr ardderchog, bryniau rholio, traethau a chefn gwlad i gyd yn cael eu cyflwyno i un profiad byw anhygoel - nid yw'n syndod bod De Ddwyrain Cymru yn denu mwy a mwy o drigolion bob blwyddyn.
Darllenwch am ein newyddion a'n blogiau diweddaraf i gael cipolwg go iawn ar yr hyn sy'n digwydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a chadwch at dyddiad gyda'r holl wybodaeth ynghylch recriwtio.