Trawsnewid Gwasanaethau Cyhyrysgerbydol

HYB CYHYRYSGERBYDOL CYMUNEDOL
Mae gwasanaethau cyhyrysgerbydol ledled Gwent yn cychwyn ar newid trawsnewidiol cyffrous!

Mae gwasanaethau cyhyrysgerbydol ledled Gwent yn cychwyn ar newid trawsnewidiol cyffrous!

Mae angen unigolion brwd, angerddol arnom i sicrhau bod y newidiadau rhyfeddol hyn i ddarparu gwasanaethau Cyhyrysgerbydol (MSK) yn cael eu cyflawni gyda chleifion wrth wraidd y model.

Mae gwasanaethau MSK yn cefnogi pobl sy’n byw â chyflwr MSK neu y mae’n effeithio arnynt. Mae cyflyrau MSK yn cynnwys arthritis yn ogystal ag anhwylderau nerfol, cyhyrol a thendonau eraill sy’n gallu arwain at boen, llai o allu i weithredu a gostyngiad i les rhywun. Gallant effeithio ar dros 17 miliwn o bobl ledled y DU ac mewn poblogaeth sy’n heneiddio, mae llawer o unigolion yn byw â chyfuniad o bryderon iechyd eraill ochr yn ochr â chyflyrau MSK.

Ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae ein gwasanaethau’n newid. Rydym yn datblygu gwasanaethau MSK gwell nag erioed, gan ddarparu mynediad cynnar at driniaeth, gydag ethos allweddol o alluogi pobl i helpu eu hunain. Mae timau Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHP) yn rhan allweddol o’r trawsnewid hwn. Mae AHP yn 13 o broffesiynau unigol wedi’u cysylltu gan eu cred ym mhwysigrwydd galluogi pobl i reoli eu lles eu hunain.

Er mwyn ein helpu i drawsnewid gwasanaethau AHP MSK mae angen aelodau tîm clinigol a gweinyddol angerddol fel chi, i gefnogi gwaith mwy integredig rhwng timau AHP MSK, gofal sylfaenol, gofal brys a gwasanaethau gofal eilaidd fel orthopaedeg a rhiwmatoleg.

Llif gwaith cyntaf y rhaglen drawsnewid cyhyrysgerbydol yw datblygu:

  • Hyb AHP MSK cymunedol ar gyfer hunan gyfeirio a brysbennu ceisiadau am gymorth.
  • Rhwydwaith o therapyddion sy’n gweithio mewn gwasanaethau cymunedol gan gynnwys gwasanaethau cleifion allanol AHP MSK craidd, yr Hyb MSK, Gofal Sylfaenol Brys a gwasanaethau Mân Anafiadau.

HYB MSK

Swyddogaeth yr Hyb MSK yw galluogi pobl i ddewis hunangyfeirio ar gyfer pob gwasanaeth therapi MSK Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Cynhelir adolygiad clinigol o hunan-atgyfeiriadau gan staff podiatreg a ffisiotherapi i geisio sicrhau bod pobl yn cael eu cyfeirio i’r tîm cywir ar yr adeg gywir, a lle bynnag y bo modd, darparu cyfle cynnar i fanteisio ar wybodaeth a chyngor i gefnogi pobl i hunanreoli eu cyflwr MSK.

Mae’r Hyb MSK wedi’i ddatblygu gan ddefnyddio dull amlddisgyblaeth lle mae podiatryddion yn arwain at frysbennu pob atgyfeiriad ar gyfer cyflyrau traed a ffêr a ffisiotherapyddion ar gyfer pob cyflwr arall.

GOFAL SYLFAENOL BRYS (UPC) AC UNEDAU MÂN ANAFIADAU (MIU)

Er mwyn integreiddio â’r timau clinigol, mae’r cyfle hwn yn galluogi uwch ffisiotherapyddion i gefnogi’r gwaith o asesu a chyfeirio pobl sy’n mynychu’r gwasanaeth gofal sylfaenol brys neu’r uned mân anafiadau gyda chyflwr MSK. Mae disgwyl i glinigwyr weithio fel rhan o’r tîm brysbennu dros y ffôn yn y gwasanaeth UPC a rhwng canolfannau asesu UPC ac MIU i reoli asesiadau corfforol brys ac atgyfeirio ymlaen lle bo angen ar gyfer cyflyrau MSK. Mae cyfle hefyd i chi ddatblygu a gwella eich sgiliau gyda chymwyseddau ymarferwyr mân anafiadau.

Ynglŷn â’r swyddi hyn:
Rydym yn chwilio am ffisiotherapyddion, podiatryddion a gweinyddwyr brwd i weithio gyda ni i ddatblygu a darparu’r system wasanaeth arloesol hon. Mae’r swyddi hyn yn gymysgedd o arweinyddiaeth glinigol lefel uchel a swyddi datblygu i greu newid gwasanaeth cynaliadwy.

CLINIGWYR

Mae’r swydd hon yn rhoi cyfle i’r therapyddion hynny sydd â diddordeb mewn datblygu sgiliau a phrofiad MSK ar draws amrywiaeth eang o dimau clinigol ac sy’n dymuno cymryd y cam nesaf ac arwain cydweithwyr i drawsnewid ac integreiddio. Bydd ganddynt gefnogaeth glinigol gan therapyddion arbenigol, yn ogystal â thimau meddygol, nyrsio, ac uwch arweinyddiaeth. Ochr yn ochr â sesiynau clinigol mewn therapi craidd, gwasanaethau oedolion a phlant, a brysbennu hunangyfeirio MSK, bydd uwch staff ffisiotherapi hefyd yn gweithio mewn lleoliadau UPC a MIU.

Mae mwy o wybodaeth am swyddi Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gael yma.

GWEINYDDWYR

Ein nod yw creu gwasanaeth cofrestru a hunangyfeirio o safon sy’n canolbwyntio ar gleifion ar gyfer poblogaeth Gwent. Yn ogystal â bod yn rhan allweddol o’r profiad i bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, mae gan ein gweinyddwyr ran hanfodol wrth gasglu gwybodaeth am ansawdd, canlyniadau, a gwerth y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu yn ogystal ag aelod hanfodol o’r tîm wrth gefnogi staff clinigol. Mae angen staff gweinyddol tosturiol, sy’n datrys problemau a fydd yn cael eu cefnogi a’u datblygu’n llawn gan uwch staff gweinyddol ac sy’n cynnwys cymorth rheoli clinigol.

Mae mwy o wybodaeth am swyddi Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gael yma.

Join our team

Enthusiastic to join our motivated ABUHB Team?