FFISIOTHERAPYDD A PHODIATRYDDION ARBENIGOL CLINIGOL
Bydd y swydd hon yn eich galluogi i weithio fel ymarferydd annibynnol ac ar y cyd â phroffesiynau eraill e.e. meddygon teulu, ymgynghorwyr, nyrsys ac AHP eraill, i ddarparu gofal MSK arbenigol sy’n canolbwyntio ar gleifion ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth mewn amrywiaeth o leoliadau gofal. Byddwch yn darparu hyfforddiant, addysg, goruchwyliaeth ac arfarniad ar gyfer staff a myfyrwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin ar draws pob maes darparu gwasanaethau MSK oedolion a phlant ac fel rhan o’r swydd, cyfrannu at ddatblygu ymarfer proffesiynol a thrawsnewid a gwerthuso darparu gwasanaethau, gan gefnogi’r agenda ymchwil ac arloesi.
ARWEINWYR CLINIGOL
Mae’r swyddi hyn yn darparu goruchwyliaeth glinigol a chydlynu’r timau clinigol. Bydd y swydd yn cynnwys helpu i ddatblygu gwasanaethau MSK yn strategol ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol a mân anafiadau ymhob safle’r Bwrdd Iechyd ac ar draws yr amrediad o ofal sylfaenol i ofal eilaidd. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am weithio gyda chydweithwyr meddygol, nyrsio a therapi i nodi a gweithredu modelau gofal newydd yn yr Hyb MSK gofal sylfaenol, gofal sylfaenol brys a gwasanaethau mân anafiadau sy’n
gwella gallu’r gwasanaethau therapi MSK i gefnogi’r Bwrdd Iechyd i ddarparu gofal o safon sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chyfrannu at gynaliadwyedd gwasanaethau.