Fferyllfa
BWRDD IECHYD PRIFYSGOL
ANEURIN BEVAN

Rydym ni’n sefydliad gofalgar arobryn ac yn
un o’r Byrddau Iechyd mwyaf yng Nghymru.

Mae fferylliaeth yn Arbenigedd unigryw; mae’n cynnig mynediad a chymorth gofal iechyd o ran lles, camau atal, triniaeth a gofal i gleifion yn unigol ar draws y system gofal iechyd gyfan.

Nod ein gwasanaeth Fferyllfa ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw darparu gofal diogel, o gartref i gartref, amserol, sy’n canolbwyntio ar y claf, er mwyn galluogi cleifion i gadw’n iach, gwella eu hiechyd, lleihau niwed a chyflawni’r arbedion mwyaf o feddyginiaethau.

Mae swyddi ar gael ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd a hyfforddiant amlsector, felly ni fu erioed amser mwy cyffrous i ymuno â’n tîm.

Fferyllwyr

Mae fferyllwyr yn arbenigwyr ym maes meddyginiaethau ac mae’n un o’r meysydd gofal iechyd sy’n tyfu gyflymaf felly fferyllwyr yn chwarae rhan hanfodol mewn gwella iechyd y genedl a sicrhau diogelwch cleifion.

Mae ein fferyllwyr yn gweithio ym maes gofal eilaidd a gofal sylfaenol i roi cyngor i gleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol i gael y budd mwyaf a lleihau gymaint â phosibl y risg sy’n gysylltiedig â meddyginiaethau.

Technegwyr fferyllfa

Mae swydd technegydd fferyllfa wedi datblygu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Trwy weithio ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd, mae’r swydd yn un amrywiol ac yn canolbwyntio ar y claf.

Mae ein technegwyr fferyllfa yn rheoli ac yn paratoi’r cyflenwad o feddyginiaethau ac yn rhoi cyngor i gleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol. Gallan nhw fod yn rhan o weithgynhyrchu meddyginiaethau megis cemotherapi a gweithio’n agos gyda Fferyllwyr.

Cynorthwyydd fferyllfa

Mae ein cynorthwywyr Fferyllfa yn aelodau hollbwysig o’r tîm fferylliaeth. Maen nhw’n gyfrifol am weinyddu mathau amrywiol o bresgripsiynau i gleifion, archebu a derbyn nwyddau a pharatoi meddyginiaethau.

Yn yr ysbyty maen nhw’n gweithio’n agos gyda’r fferyllydd a’r technegydd ar lefel ward i baratoi meddyginiaethau i gleifion fynd adre â nhw.

YMUNWCH Â’N TÎM

Click below to view our Pharmacy vacancies.