Gofal Sylfaenol a Chymunedol
BWRDD IECHYD
PRIFYSGOL ANEURIN BEVAN

GWEITHIO MEWN GOFAL SYLFAENOL

Mae Gofal Sylfaenol yn darparu’r pwynt gofal cyntaf, ddydd a nos i dros 90% o gyswllt pobl â’r GIG yng Nghymru. Mae Meddygfeydd Teulu yn agwedd graidd ar Ofal Sylfaenol: nid hon yw’r unig elfen –  mae Gofal Sylfaenol yn cwmpasu llawer o wasanaethau, gan gynnwys meddygfeydd teulu, fferylliaeth, deintyddiaeth ac optometreg. Mae Gofal Sylfaenol trwy Lywio Gofal hefyd yn cydgysylltu mynediad i bobl at amrywiaeth eang o wasanaethau yn y gymuned leol i ddiwallu eu hanghenion iechyd a lles.

Mae’r gwasanaethau cymunedol hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o staff, megis nyrsys cymunedol ac ardal, nyrsys ymateb cyflym ac ailalluogi, nyrsys practis, bydwragedd, ymwelwyr iechyd, gweithwyr cymorth gofal iechyd, gweithwyr iechyd meddwl, timau hybu iechyd, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, podiatryddion, gwaedwyr, parafeddygon, cymdeithion meddygol, staff therapïau, gwasanaethau cymdeithasol, staff eraill awdurdod lleol yn ogystal â’r bobl hynny sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli yn y sefydliadau gwirfoddol niferus yn ein cymunedau. Yn ogystal â’r swyddi hyn, ceir nifer o wahanol swyddogaethau gweinyddol a rheoli hanfodol.

Er mwyn darparu gofal cyfannol cymhleth i’n cleifion/defnyddwyr gwasanaethau, defnyddir dull Tîm Amlddisgyblaethol. Grwp o weithwyr proffesiynol o sawl disgyblaeth yw Tîm Amlddisgyblaethol, sy’n gwneud penderfyniadau ar y cyd ynglyn â gofal unigol i glaf. Mae Tîm Amlddisgyblaethol nodweddiadol yn ein Gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol, felly, yn cynnwys cymysgedd o’r swyddogaethau a restrir uchod.

I archwilio sut i fod yn rhan o’n tîm Gofal Sylfaenol dynamig, edrychwch ar ein swyddi gwag presennol.

GWEITHIO MEWN GWASANAETHAU

Mae Gwasanaethau Cymunedol yn darparu gofal o’r radd flaenaf i drigolion mewn Ysbytai Cymunedol a Chanolfannau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r ysbytai/canolfannau hyn yng nghanol ein cymunedau ac yn ein galluogi i ddarparu amrywiaeth eang o ofal i gleifion yn nes at gartref. Rhestrir isod y gwasanaethau a ddarperir ym mhob safle:

Ysbyty Aneurin Bevan – 80 o welyau adsefydlu, cyfleusterau pelydr-X, dwy feddygfa deulu, a man therapïau ac adran cleifion allanol.

Ysbyty Gwynllyw – 80 o welyau adsefydlu, cyfleusterau pelydr-X, dwy feddygfa deulu, a man therapïau ac adran cleifion allanol.

Ysbyty’r Sir –  44 o welyau adsefydlu, cyfleusterau pelydr-X, adran cleifion allanol, cyfleusterau iechyd meddwl a ffisiotherapi i gleifion allanol.

Canolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Monnow Vale – apwyntiadau asesu iechyd meddwl a chleifion allanol i oedolion hŷn. Ceir hefyd 19 o welyau adsefydlu.

Canolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig Rhymni – dau bractis meddyg teulu, cyfleusterau iechyd meddwl, gwasanaethau therapi ac oddeutu 12 o welyau adsefydlu.

Ysbyty Cymunedol Cas-gwent – 32 o welyau adsefydlu, gwasanaethau therapi a diagnostig, gan gynnwys: ffisiotherapi, therapi galwedigaethol, therapi lleferydd, dieteteg a phelydr-X.

Fel y dangosir, mae angen amrywiaeth eang o swyddogaethau ar draws y lleoliad gwasanaethau cymunedol. Mae’r rhain yn cynnwys yn bennaf:

Er mwyn archwilio sut i fod yn rhan o’n tîm Gwasanaethau Cymunedol rhagorol, edrychwch ar ein swyddi gwag presennol.

YMUNWCH Â’N TÎM

Os ydych ch’n hoffi’r hyn yr ydych chi wedi ei weld hyd yn hyn ac yn chwilio am swydd, beth am
ymuno â ni? Cliciwch isod i weld y swyddi gwag sydd gennym ni yn ein hysbytai a’n rhwydweithiau.